Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (273) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 6, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.59
4 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 2, 13 a 17 mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau a Rheolau Sefydlog 17 a 22 mewn perthynas ag Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dechreuodd yr eitem am 15.49
NDM5786 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13 a 17 mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau a Rheolau Sefydlog 17 a 22 mewn perthynas ag Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015; ac
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:
a) adolygu Rheolau Sefydlog 17 a 22 fel y nodir yn Atodiad D i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar unwaith; ac i
b) adolygu Rheolau Sefydlog 2, 13 ac 17 fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 1 Medi 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Cynnig i gymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill a mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig
Dechreuodd yr eitem am 15.50
NDM5784 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu o dan Reolau Sefydlog 22.2(ii) a 22.2 (iii):
1. Yn cymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015;
2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015; ac
3. Yn cytuno y bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Medi 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.
2. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal
dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau
diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth
briodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y
cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru
i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr
wythnosau diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
1 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael
hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.
2. Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
3. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5787 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol fel ffordd o gyflawni hyn yn mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynrychiolaeth a etholir yn ddemocrataidd ar fyrddau iechyd fel ffordd o gyflawni hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynigiwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5787 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
8 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5788 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn diwallu
anghenion dinasyddion Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
9 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.54
10Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.59
NDM5783 Nick Ramsay (Mynwy)
Clefydau'r croen: Blaenoriaethu anghenion pobl yng Nghymru sydd â chlefydau sy'n effeithio ar y croen.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2015